Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 30
Ionawr 2024
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
(30 munud)
(30 munud)
(30 munud)
(60 munud)
NDM8463 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2022-23.
Adroddiad Blynyddol: 2022-2023 Comisiynydd y Gymraeg
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gwaith y Comisiynydd i annog sefydliadau yn y sector preifat, megis y sector bancio, i ddefnyddio'r Gymraeg ar sail anstatudol.
Yn cytuno y dylai banciau fod yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg statudol.
(60 munud)
NDM8464 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
Gosodwyd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 18 Medi 2023.
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gerbron y Senedd ar 19 Ionawr 2024.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymateb gan y Pwyllgor Busnes i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymateb gan Gomisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymateb gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i adroddiad y Pwyllgor Biliau Diwygio
Ymateb gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad i adroddiad y Pwyllgor Cyllid
NDM8465 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Senedd Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024